Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, claims the Labour party is ignoring its own politicians over the introduction of the controversial 20mph speed limit.
Mr Rowlands, a harsh critic of the recent introduction of the default 20mph speed limit across Wales, was commenting after Alyn and Deeside’s Labour MP suggested it was unlikely there would be further exemptions in the county.
Mr Rowlands said:
As this controversial and ridiculous policy continues to frustrate and anger people across the country it seems that the Labour Party is ignoring its own politicians.
Labour politicians in Flintshire finally decided to speak up for their constituents after realising how unpopular the roll out of the 20mph speed limit was in the county.
However, despite talks with Labour controlled Flintshire County Council and the Welsh Labour Government it looks like further exemptions will not be happening.
Only last weekend a local regional newspaper carried out a survey and yet again the majority of people voted overwhelmingly against this ludicrous policy.
The new speed limit is causing anger and frustration for motorists and I am really worried that this concern is continuing to grow.
As chair of Welsh Parliament’s Cross-Party Group on Tourism I am also extremely concerned at the negative publicity this 20mph speed limit is creating and fear it will put visitors off coming to North Wales.
Last week Flintshire council said ten roads were to revert back to 30mph after local politicians facilitated a meeting between Flintshire Council and Welsh Government in an attempt to ensure a more pragmatic approach is taken to new 20mph limits.
However following conversations with FCC and Welsh Government, Alyn and Deeside MP, Mark Tami suggested it seemed 'unlikely' that further exceptions would be made.
Sam Rowlands AS yn dweud bod pryder cynyddol ynghylch y terfyn cyflymder o 20mya ledled y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn honni bod y blaid Lafur yn anwybyddu ei gwleidyddion ei hun dros gyflwyno'r terfyn cyflymder dadleuol o 20mya.
Roedd Mr Rowlands, beirniad llym y cam diweddar o gyflwyno'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol ledled Cymru, yn siarad wedi i AS Llafur Alun a Glannau Dyfrdwy awgrymu ei bod yn annhebygol y byddai eithriadau pellach yn y sir.
Meddai Mr Rowlands:
Wrth i'r polisi dadleuol a chwerthinllyd hwn barhau i gorddi a gwylltio pobl ar draws y wlad mae'n ymddangos bod y Blaid Lafur yn anwybyddu ei gwleidyddion ei hun.
O'r diwedd, penderfynodd gwleidyddion Llafur yn Sir y Fflint godi llais dros eu hetholwyr ar ôl sylweddoli pa mor amhoblogaidd oedd cyflwyno'r terfyn cyflymder o 20mya yn y sir.
Fodd bynnag, er gwaethaf trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint a reolir gan Lafur a Llywodraeth Lafur Cymru, mae'n ymddangos na fydd eithriadau pellach yn cael eu gwneud.
Dim ond y penwythnos diwethaf cynhaliodd papur newydd rhanbarthol lleol arolwg, ac unwaith eto pleidleisiodd mwyafrif y bobl yn erbyn y polisi chwerthinllyd hwn.
Mae'r terfyn cyflymder newydd yn achosi dicter a rhwystredigaeth i fodurwyr ac rwy'n poeni'n fawr fod y pryder hwn yn parhau i gynyddu.
Fel cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth, rwyf yn hynod bryderus hefyd am y cyhoeddusrwydd negyddol y mae'r terfyn cyflymder 20mya hwn yn ei ddenu ac yn ofni y bydd yn atal ymwelwyr rhag dod i Ogledd Cymru.
Yr wythnos diwethaf dywedodd Cyngor Sir y Fflint y byddai deg ffordd yn dychwelyd i derfyn 30mya ar ôl i wleidyddion lleol hwyluso cyfarfod rhwng Cyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru mewn ymgais i sicrhau bod dull mwy pragmatig yn cael ei gymryd ynghylch terfynau newydd o 20mya.
Fodd bynnag, yn dilyn sgyrsiau gyda Chyngor Sir y Fflint a Llywodraeth Cymru, awgrymodd Mark Tami Aelod Seneddol Alun a Glannau Dyfrdwy, ei bod yn ymddangos yn ‘annhebygol’ y byddai eithriadau pellach yn cael eu gwneud.