Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls for long term plans to be put in place to improve and maintain walking pathways for future generations.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government and Chair of the Cross-Party Group on Outdoor Activities was speaking during a Ramblers Cymru event to celebrate paths and partnerships.
He said:
I was delighted to sponsor the event as I have a great passion for the outdoors and encouraging everyone to enjoy everything that Wales has to offer from coastlines to canals, particularly in my region of North Wales.
Since becoming chair of the group I have had the pleasure of encountering a variety of groups dedicated to the outdoors and Ramblers Cymru are at the very forefront of that.
I would like to highlight some statistics that Ramblers have found out about public attitudes towards the great outdoors and walking paths. There is huge support for protecting and improving these paths, with a massive 89% of the Welsh public agreeing that the network should be protected for future generations.
This is clearly positive. However, 69% believe the path network in Wales requires improvement and I agree with them, and this gives us an opportunity to push for those improvements and put long-term plans in place to maintain these paths so those future generations are able to use them to their fullest.
People walking outdoors is good for physical and mental health, which is something that has rightly received more and more attention in recent years. Our outdoor sector also attracts tourists to see the very best of Wales and helps our economy through increased visitor spend.
As Chair of the Cross -Party Group on Tourism, I am also well aware of the benefits of making sure our network of pathways are maintained and improved for future generations.
Sam Rowlands AS yn siarad mewn digwyddiad i dynnu sylw at waith Y Cerddwyr
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw am roi cynlluniau tymor hir ar waith i wella a chynnal llwybrau cerdded ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid a Chadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Weithgareddau Awyr Agored yn siarad yn ystod digwyddiad Y Cerddwyr i ddathlu llwybrau a phartneriaethau.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd yn noddi'r digwyddiad gan fy mod i’n caru’r awyr agored ac yn annog pawb i fwynhau popeth sydd gan Gymru i'w gynnig o arfordiroedd i gamlesi, yn enwedig yn fy rhanbarth i o’r Gogledd.
Ers dod yn gadeirydd y grŵp rwyf wedi cael y pleser o ddod ar draws amrywiaeth o grwpiau sy'n ymroddedig i'r awyr agored ac mae Y Cerddwyr ar flaen y gad yn hynny o beth.
Hoffwn dynnu sylw at rai ystadegau y mae cerddwyr wedi'u canfod am agweddau'r cyhoedd tuag at yr awyr agored a llwybrau cerdded gwych. Mae cefnogaeth enfawr ar gyfer amddiffyn a gwella'r llwybrau hyn, gydag 89% o gyhoedd Cymru yn cytuno y dylid diogelu'r rhwydwaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae hyn yn amlwg yn beth cadarnhaol. Fodd bynnag, mae 69% yn credu bod angen gwella'r rhwydwaith llwybrau yng Nghymru ac rwy'n cytuno â nhw, ac mae hyn yn rhoi cyfle i ni bledio am y gwelliannau hynny a rhoi cynlluniau tymor hir ar waith i gynnal y llwybrau hyn fel bod cenedlaethau'r dyfodol yn gallu eu defnyddio i'w heithaf.
Mae cerdded yn yr awyr agored yn dda i iechyd corfforol a meddyliol, sy'n rhywbeth sydd wedi cael mwy a mwy o sylw yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ein sector awyr agored hefyd yn denu twristiaid i weld y gorau o Gymru ac yn helpu ein heconomi trwy wariant cynyddol gan ymwelwyr.
Fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth, rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o fanteision sicrhau bod ein rhwydwaith o lwybrau yn cael eu cynnal a'u gwella ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.