Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging people to support a fun packed day of Christmas events in Wrexham city centre.
Mr Rowlands is backing the city’s Christmas event which is being organised by Wrexham County Borough Council in collaboration with Eagles Meadow and Nightingale House Hospice and kicks off on Saturday November 18.
He said:
I am delighted to support such a fantastic festive day for all the family. What a wonderful way to start this magical season.
Everybody knows what a vibrant place Wrexham is and it is great to see excellent Christmas entertainment on offer leading up to the all important switching on of the Christmas lights.
The fun starts on the Saturday morning with festive stalls and entertainment in Queens Square and entertainment provided by brass bands. There really is something for everybody and well worth supporting.
The event is a change to the norm for Wrexham’s first Christmas event which has traditionally taken place on a Thursday evening.
The fun will kick off on Queens Square from 11:30am with the promise of festive entertainment for the public and from 3pm the celebrations will move to Eagles Meadow before the big light switch on at 7pm.
Performers on the evening will include Andy Bennett from Ocean Colour Scene, who will be headlining the Show. Electronic dance music group Oceanic will also take to the stage as well as “Agadoo’s” Dene Michael’s Black Lace.
For more information follow Eagles Meadow on Facebook.
Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad Nadoligaidd yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog pobl i gefnogi diwrnod llawn hwyl o ddigwyddiadau'r Nadolig yng nghanol dinas Wrecsam.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi digwyddiad Nadolig y ddinas sy'n cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam mewn cydweithrediad â Dôl yr Eryrod a Hosbis Tŷ'r Eos ac yn cychwyn ddydd Sadwrn 18 Tachwedd.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o gefnogi diwrnod mor wych i'r teulu cyfan. Am ffordd wych i ddechrau'r tymor hudolus hwn.
Mae pawb yn gwybod bod Wrecsam yn lle bywiog iawn ac mae'n wych gweld adloniant Nadolig ardderchog ar gael yn arwain at y foment bwysig o droi’r goleuadau Nadolig ymlaen.
Mae'r hwyl yn dechrau ar y bore Sadwrn gyda stondinau ac adloniant Nadoligaidd yn Sgwâr y Frenhines ac adloniant yn cael ei ddarparu gan fandiau pres. Mae yna rywbeth i bawb ac mae'n werth ei gefnogi.
Mae'r digwyddiad yn dipyn o newid i’r arferol ar gyfer digwyddiad Nadolig cyntaf Wrecsam sydd wedi digwydd yn draddodiadol ar nos Iau.
Bydd yr hwyl yn dechrau ar Sgwâr y Frenhines am 11:30am gydag adloniant a gwyliau ac o 3pm bydd y dathliadau yn symud i Ddôl yr Eryrod cyn y cyffro o droi’r goleuadau ymlaen am 7pm.
Bydd y perfformwyr ar y noson yn cynnwys Andy Bennett o Ocean Colour Scene, a fydd yn arwain y Sioe. Bydd y grŵp cerddoriaeth dawns electronig Oceanic hefyd yn dod i'r llwyfan yn ogystal â Dene Michael a’r grŵp Black Lace gyda’r “Agadoo” enwog.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch Dôl yr Eryrod ar Facebook