Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has vowed to continue campaigning against the Welsh Government’s ridiculous introduction of 20mph speed limits across Wales.
Mr Rowlands, a harsh critic of the new legislation has cautiously welcomed news that Flintshire council has announced that 10 roads have been reverted back to 30mph.
He said:
We all know that the roll out of this idea has been a shambles and it seems crazy that roads which were 30mph then changed to 20mph and are now going back to 30mph, including three in Buckley where residents strongly opposed the move in the first place.
Although it is a step in the right direction I still remain concerned and this just shows that this ill thought out policy should never have been introduced in the first place and roads should have remained at 30mph.
As I have said previously, and like most people, I am not against 20mph outside schools, hospitals and other areas where evidence shows it’s a benefit, but quite clearly the backlash from the public just shows the anger and frustration these measures are causing.
Motorists still remain extremely annoyed over the new speed limit and roads continue to be clogged up with some people driving at 15mph to make sure they do not exceed 20mph. Several people have commented that it is just like being in a funeral procession and extremely frustrating.
Reducing these roads to 20mph only to change them back to 30mph a couple of months later shows how poorly managed the policy is and I fear it has been a massive waste of money.
Welsh Government need to be ditching vanity projects and spending money where it is badly needed like the NHS and education.
Rest assured if Welsh Conservatives get the opportunity to repeal this ludicrous law they will do so.
Y gwrthwynebiad i'r terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd ledled Gogledd Cymru yn parhau i dyfu, yn ôl Sam Rowlands AS
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi addo parhau i ymgyrchu yn erbyn penderfyniad gwirion Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfynau cyflymder 20mya ledled Cymru.
Bu Mr Rowlands yn feirniad hallt o’r ddeddfwriaeth newydd o'r dechrau, ac mae wedi rhoi croeso gofalus i'r newyddion fod Cyngor Sir y Fflint wedi cyhoeddi bod y terfyn cyflymder ar 10 ffordd wedi eu newid yn ôl i fod yn 30mya.
Meddai:
Mae pawb yn gwybod bod y broses o gyflwyno'r syniad hwn wedi bod yn draed moch, ac mae'n hollol wirion bod ffyrdd a oedd â therfyn cyflymder o 30mya wedi newid i 20mya a'u bod bellach yn mynd yn ôl i 30mya, gan gynnwys tair ffordd ym Mwcle lle roedd trigolion wedi gwrthwynebu'r newid yn gryf o'r dechrau.
Er ei fod yn gam i'r cyfeiriad iawn, rwy'n bryderus o hyd, ac mae'r cwbl yn dangos na ddylai'r polisi diffygiol hwn fod wedi cael ei gyflwyno yn y lle cyntaf, ac y dylai’r terfyn cyflymder fod wedi aros yn 30mya.
Fel rydw i wedi'i ddweud droeon o'r blaen, ac fel y rhan fwyaf o bobl, dydw i ddim yn gwrthwynebu terfyn cyflymder 20mya y tu allan i ysgolion, ysbytai ac mewn ardaloedd eraill lle mae tystiolaeth yn dangos ei fod o fudd, ond mae'n gwbl amlwg bod adwaith gelyniaethus y cyhoedd yn dangos y dicter a'r rhwystredigaeth sy'n cael eu hachosi gan y mesurau hyn.
Mae modurwyr yn parhau i deimlo'n hynod flin oherwydd y terfyn cyflymder newydd, ac mae tagfeydd i'w gweld ar y ffyrdd o hyd wrth i rai pobl yrru ar gyflymder o 15mya er mwyn sicrhau eu bod yn cadw o dan y terfyn o 20mya. Mae nifer o bobl wedi dweud bod y profiad yn debyg i deithio mewn gorymdaith angladd, a'u bod yn hynod rwystredig.
Mae lleihau'r terfyn cyflymder ar y ffyrdd hyn i 20mya ac yna ei newid yn ôl i 30mya ychydig fisoedd yn ddiweddarach yn dangos bod y polisi hwn wedi cael ei reoli'n wael iawn, ac rwy'n ofni bod y cyfan yn wastraff arian enfawr.
Mae angen i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i gyflwyno prosiectau balchder, gan fynd ati yn hytrach i wario arian lle mae ei angen yn ddirfawr fel y GIG ac addysg.
Gallaf eich sicrhau y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn diddymu'r ddeddf chwerthinllyd hon os daw’r cyfle i wneud hynny.