Sam Rowlands MS for North Wales is backing a campaign to encourage people to make a stand against domestic violence.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
I will be proud to wear a White Ribbon on Friday November 24 and fully support anyone helping to end violence towards women and children.
I am delighted to be able to support this campaign and it is good to see an event being held in Wrexham to help raise awareness.
It is a sad fact that many women suffer some form of domestic violence and we need to do everything we can to prevent these abhorrent actions.
It is also vitally important to get the message across to the public and if anyone knows someone who is suffering from domestic violence to make sure that they get the right help and advice which is readily available.
On Friday November 24 2023 from 10am – 12pm there will be a coffee morning at Tŷ Pawb, Wrexham, for White Ribbon Day.
There will be light refreshments, entertainment, live music and stalls to highlight domestic abuse and sexual violence support services available in Wrexham.
The event is supported by North Wales Police, BAWSO, who provides support to black minority ethnic communities and individuals in Wales affected by abuse, violence and exploitation, Stepping Stones, Community Catalysts, Hafan Cymru RASASC, the Rape and Sexual Abuse Support Centre, DASU, the Domestic Abuse Safety Unit and Flying Start.
The annual event raises awareness of the importance in recognising the signs and symptoms of domestic abuse and sexual violence.
Sam Rowlands AS yn cefnogi'r Diwrnod Rhuban Gwyn
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i annog pobl i sefyll yn erbyn trais domestig.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Byddaf yn gwisgo Rhuban Gwyn â balchder ddydd Gwener 24 Tachwedd ac rwy'n cefnogi unrhyw un sy'n helpu i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a phlant.
Rydw i wrth fy modd yn cefnogi'r ymgyrch hon ac mae'n dda gweld digwyddiad yn cael ei gynnal yn Wrecsam sy’n helpu i godi ymwybyddiaeth.
Mae'n ffaith drist bod llawer o fenywod yn dioddef rhyw fath o drais domestig, ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y gweithredoedd ffiaidd hyn.
Hefyd, mae'n hanfodol bwysig bod y neges yn cael ei chyfleu i'r cyhoedd, ac os oes unrhyw un yn adnabod rhywun sy'n dioddef trais domestig, mae'n rhaid sicrhau bod y sawl sy'n dioddef yn derbyn y cymorth a'r cyngor cywir sydd ar gael yn rhwydd.
Cynhelir bore coffi yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ddydd Gwener 24 Tachwedd 2023 rhwng 10am a 12pm ar gyfer y Diwrnod Rhuban Gwyn.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys lluniaeth ysgafn, adloniant, cerddoriaeth fyw a stondinau er mwyn tynnu sylw at y gwasanaethau cymorth sydd ar gael yn Wrecsam i ddioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Cefnogir y digwyddiad gan Heddlu Gogledd Cymru, BAWSO, sy'n rhoi cymorth i gymunedau ac unigolion du a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru sy'n cael eu heffeithio gan gamdriniaeth, trais a chamfanteisio, Stepping Stones, Community Catalysts, RASASC Hafan Cymru, y Ganolfan Gymorth Trais a Cham-drin Rhywiol, DASU, yr Uned Ddiogelwch Cam-drin Domestig a Dechrau'n Deg.
Mae'r digwyddiad blynyddol yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cydnabod arwyddion a symptomau cam-drin domestig a thrais rhywiol.