Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, backs scheme to help patients regain their independence.
Mr Rowlands was commenting after hearing about a newly refurbished kitchen at Deeside Community Hospital where patients were being helped to regain their independence before going home.
Mr Rowlands said:
Dorothy’s Kitchen, named after the late Dorothy Hall whose estate largely funded the development is a wonderful idea and congratulations must go to everyone who has been involved in raising funds to make this happen, especially Fiona Moss Occupational Therapist Team Lead and Jan Williams, Matron of Deeside Community Hospital.
I believe any initiatives which can help patients remain in their own homes and be independent should be supported and delighted to see something like this in North Wales.
Not only will it enable patients to be discharged a bit quicker it will help to relieve some of the pressure on our hard working NHS staff.
Dorothy’s Kitchen will be used as part of therapy sessions encouraging patients to make hot drinks, snacks and hot meals, as well as by the new Baking Club. This will help Occupational Therapists to assess patients and see how they will cope once they are home, and decide what further support they may need.
Fiona Moss, Occupational Therapist Team Lead, said:
The kitchen helps our patients' do their day-to-day activities that they will need to be able to do at home. It will help with their independence, cognitive skills, confidence as well as boost their mental well-being whilst in hospital.
We use it to establish if they are able to sequence tasks and also to ascertain if there are any safety concerns. This gives us the opportunity to assess our patients in an environment similar to their own home, to see what level of support they may need following discharge.
Fiona and Jan managed to raise over £10,000 to develop the kitchen with other donations and support gratefully received from Flint Lions, Deeside Round Table, Shotton Community Council and Deeside League of Friends.
Dorothy’s Kitchen includes equipment which suits all patients with both an electric and gas cooker/hob, as well as a rise and fall sink unit so that patients in a wheelchair can be assessed.
Thanks to the new kitchen the Stroke Rehabilitation Unit has started a Baking Club for its patients as part of a new therapy session, with Asda in Queensferry donating items for patients to use.
Sam Rowlands yn cefnogi Cegin Dorothy mewn ysbyty yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi cynllun i helpu cleifion i adennill eu hannibyniaeth.
Roedd Mr Rowlands yn siarad ar ôl clywed am gegin sydd newydd gael ei hadnewyddu yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy lle mae cleifion yn cael cymorth i adennill eu hannibyniaeth cyn mynd adref.
Meddai Mr Rowlands:
Roedd ystâd Dorothy Hall yn bennaf cyfrifol am ariannu datblygiad Cegin Dorothy, sy'n dwyn ei henw. Mae'n rhaid llongyfarch pawb sydd wedi helpu i godi arian er mwyn gwireddu'r syniad gwych hwn, yn enwedig Fiona Moss, Arweinydd y Tîm Therapyddion Galwedigaethol, a Jan Williams, Metron Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy.
Rwy'n credu bod unrhyw fentrau sy'n gallu helpu cleifion i aros yn eu cartrefi eu hunain a bod yn annibynnol yn haeddu cefnogaeth, ac rydw i wrth fy modd yn gweld datblygiad fel hwn yn y Gogledd.
Yn ogystal â helpu i ryddhau cleifion ychydig yn gynt, bydd yn helpu i leddfu rhywfaint o'r pwysau ar staff y GIG sy'n gweithio mor galed.
Bydd Cegin Dorothy yn cael ei defnyddio fel rhan o sesiynau therapi sy'n cynorthwyo cleifion i wneud diodydd poeth, byrbrydau a phrydau poeth, ac yn cael ei defnyddio gan y Clwb Pobi newydd. Bydd hyn yn helpu Therapyddion Galwedigaethol i asesu cleifion a gweld sut y byddan nhw'n ymdopi ar ôl cyrraedd adref, a'u helpu i benderfynu pa gymorth arall sydd ei angen arnynt o bosibl.
Dywedodd Fiona Moss, Arweinydd y Tîm Therapyddion Galwedigaethol:
Mae'r gegin yn helpu ein cleifion i ymgymryd â'r gweithgareddau bob dydd y bydd angen iddynt eu gwneud gartref. Bydd yn helpu gyda'u hannibyniaeth, eu sgiliau gwybyddol, eu hyder, ac yn hybu eu lles meddyliol tra eu bod yn yr ysbyty.
Rydyn ni'n defnyddio'r gegin i asesu a yw cleifion yn gallu cyflawni tasgau mewn trefn a chanfod a oes unrhyw bryderon diogelwch. Mae hyn yn rhoi cyfle i ni asesu ein cleifion mewn amgylchedd tebyg i'w cartref eu hunain, er mwyn gweld pa lefel o gymorth sydd ei angen arnynt o bosibl ar ôl eu rhyddhau.
Llwyddodd Fiona a Jan i godi dros £10,000 i ddatblygu'r gegin, ac roedden nhw'n ddiolchgar iawn am roddion a chymorth gan Lewod y Fflint, Bord Gron Glannau Dyfrdwy, Cyngor Cymuned Shotton ac Urdd Cyfeillion Glannau Dyfrdwy.
Mae Cegin Dorothy yn cynnwys offer sy'n addas i gleifion o bob math gan gynnwys popty/hob trydan a nwy, yn ogystal ag uned sinc sy'n codi a disgyn er mwyn gallu asesu cleifion mewn cadair olwyn.
Diolch i'r gegin newydd, mae'r Uned Adsefydlu wedi Strôc wedi dechrau Clwb Pobi ar gyfer cleifion fel rhan o sesiwn therapi newydd, ac mae Asda yn Queensferry yn rhoi’r eitemau i’w defnyddio gan gleifion.