Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, backs calls for community ownership rights for the wellbeing of local people.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was speaking during a Community Assets: Empowering Communities event hosted by the Building Communities Trust in Cardiff.
He joined a cross-party panel with representatives from community focused organisations to look at what needs to happen next one year on from the Welsh Parliament Local Government and Housing Committee’s report, Community Assets.
Mr Rowlands is a keen supporter of local people being more involved in owning and running assets which are hugely important in their local communities.
He said:
I believe that it is vital we look after our community assets whether it be a local pub or village hall which are empty and perhaps fallen into disrepair.
We do hear of local communities coming together to support such ventures and I for one am all in favour of encouraging this trend.
It is a worrying issue as the closing down of community assets is increasing and I was delighted to have the opportunity to discuss the matter with fellow MSs and other professionals.
It is absolutely essential we embrace volunteers and communities to keep our community assets for local people.
Mr Rowlands joined Building Communities Trust and others from the Community Ownership Group for a panel event to discuss what needs to happen next with community ownership rights for the wellbeing of local people.
The event included panellists from across the political spectrum, as well as from a range of community-focused organisations, including the Plunkett Foundation, and the Coalfields Regeneration Trust.
Sam Rowlands AS yn cefnogi trosglwyddiad asedau cymunedol i berchnogaeth leol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi galwadau am hawliau perchnogaeth gymunedol er lles pobl leol.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, yn siarad yn ystod digwyddiad Asedau Cymunedol: Grymuso Cymunedau a gynhaliwyd gan yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yng Nghaerdydd.
Ymunodd â phanel trawsbleidiol a chynrychiolwyr o sefydliadau sy'n canolbwyntio ar y gymuned i ystyried beth sydd angen ei wneud nesaf yn dilyn adroddiad Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai Senedd Cymru, Asedau Cymunedol a gyhoeddwyd blwyddyn yn ôl.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi'r syniad o bobl leol yn cymryd mwy o ran perchnogi asedau a'u cynnal, sy'n hynod bwysig i gymunedau lleol.
Meddai:
Yn fy marn i, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gofalu am ein hasedau cymunedol, fel tafarndai lleol neu neuaddau pentref, gan fod rhai ohonyn nhw'n wag ac mewn cyflwr gwael.
Rydyn ni'n clywed am gymunedau lleol yn dod at ei gilydd i gefnogi mentrau o'r fath ac rwy'n awyddus iawn i hyrwyddo'r syniad hwn.
Mae mwy o asedau cymunedol yn cau, sy'n peri pryder mawr, ac roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i drafod y mater gyda chyd-Aelodau o'r Senedd a gweithwyr proffesiynol eraill.
Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn croesawu gwirfoddolwyr a chymunedau i ddiogelu ein hasedau cymunedol ar gyfer pobl leol.
Ymunodd Mr Rowlands ag Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau ac eraill o'r Grŵp Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer digwyddiad panel i drafod beth sydd angen ei wneud nesaf ym maes hawliau perchnogaeth gymunedol ar gyfer llesiant pobl leol.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys panelwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol, yn ogystal ag amrywiaeth o sefydliadau cymunedol, gan gynnwys Sefydliad Plunkett, ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Meysydd Glo.