Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, wants people across the region to support small businesses and shop locally in the run up to Christmas.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, is backing a national initiative, to encourage more people to shop small on Saturday December 2.
He said:
I am a great fan of this national initiative which aims to highlight local businesses across the UK and Wales and ultimately encourages more people to shop small on Saturday December 2.
I have always been a great supporter of Small Business Saturday which inspires more and more people to support local business and buy locally sourced food and other products from their community.
Small Business Saturday UK is a fantastic initiative which has proved highly successful and very important for our local economy.
I would urge all communities in North Wales to celebrate the day and support their own small businesses in the run up to Christmas and beyond.
Small Business Saturday UK is a grassroots, non-political, non-commercial campaign, which highlights small business success and encourages consumers to ‘shop local’ and support small businesses in their communities.
Now in its eleventh year in the UK, the campaign has grown significantly year on year encouraging people to shop small.
The day itself takes place this year on Saturday December 2 but the initiative aims to have a lasting impact on small businesses.
On Small Business Saturday customers are urged to go out and support all types of small businesses, online, in offices and stores with many hosting events and offering discounts.
Sam Rowlands AS yn annog pawb i gefnogi Dydd Sadwrn Busnesau Bach
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, eisiau i bobl ar draws y rhanbarth gefnogi busnesau bach a siopa’n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, yn cefnogi menter genedlaethol i annog mwy o bobl i brynu o siopau bach ar ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.
Dywedodd:
Rwy’n frwd iawn o blaid y fenter genedlaethol hon sy’n ceisio tynnu sylw at fusnesau lleol ledled y DU a Chymru ac yn y pen draw yn annog mwy o bobl i brynu o siopau bach ar ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.
Rydw i wedi bod yn gefnogwr pybyr i Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ers tro byd. Mae’n ysbrydoli mwy a mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a phrynu bwyd a chynnyrch arall o ffynonellau lleol yn eu cymuned.
Mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU yn fenter wych sydd wedi profi’n hynod lwyddiannus ac yn bwysig iawn i’n heconomi leol.
Byddwn yn annog pob cymuned yn y gogledd i ddathlu’r diwrnod a chefnogi eu busnesau bach eu hunain yn y cyfnod cyn y Nadolig a thu hwnt.
Mae Dydd Sadwrn Busnesau Bach y DU yn ymgyrch sylfaenol, anwleidyddol, anfasnachol, sy’n tynnu sylw at lwyddiant busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i ‘siopa’n lleol’ a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.
Bellach yn ei hunfed flwyddyn ar ddeg yn y DU, mae’r ymgyrch wedi tyfu’n sylweddol flwyddyn ar ôl blwyddyn wrth annog pobl i brynu o siopau bach.
Cynhelir y diwrnod ei hun eleni ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr, ond nod y fenter yw cael effaith barhaol ar fusnesau bach.
Ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach, mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i fynd allan i gefnogi pob math o fusnesau bach, ar-lein, mewn swyddfeydd ac mewn siopau, gyda llawer yn cynnal digwyddiadau ac yn cynnig gostyngiadau.