Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has praised the work of a charity helping elderly people to live independently for longer.
Mr Rowlands, a keen supporter of any measures to enable older people to remain in their own homes recently visited Conwy and Denbighshire Care and Repair in St Asaph.
He said:
I am a great believer in doing everything we can so that our elderly can live independently and fully support Conwy and Denbighshire Care and Repair and they work they carry out to achieve this.
I was delighted to have the opportunity to meet with Lynda Colwell, Chief Officer and staff to hear about what they do and discuss what more can be done to support them.
It really is a fantastic charity and deserves our full support. I would also like to see a higher level of focus from the Welsh Government on private housing needs in North Wales and plan to raise this in Welsh Parliament in the future.
Care and Repair is an adaptations charity which helps older people in Wales to live independently, specialising in repairs, adaptations and home maintenance, making older people feel safer and have peace of mind.
Conwy and Denbighshire Care and Repair’s main aim is to provide support and assistance which allows elderly people to stay in their own homes for as long as is practical. This aligns with their strapline, “Better homes, better health”
They achieve this aim by providing a holistic service beginning most often with a home visit by a skilled caseworker who will assess and evaluate the needs of the home, and end with installation, if required, of adaptations specific to the client’s needs.
Their 2022-2023 annual report shows that the work of Conwy and Denbighshire Care and Repair saved Betsi Cadwaladr Health board 2,280 bed days and 297 people were able to maintain their independence after the charity’s interventions allowed them to return home after hospital treatment.
Sam Rowlands AS yn ymweld â Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi canmol gwaith elusen sy’n helpu pobl oedrannus i fyw’n annibynnol am gyfnod hirach.
Yn ddiweddar, bu Mr Rowlands, sy’n frwd o blaid unrhyw fesurau i alluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain, ar ymweliad â Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn Llanelwy.
Dywedodd:
Rwy’n credu’n gryf yn yr angen i wneud popeth o fewn ein gallu er mwyn i’n henoed fyw’n annibynnol, ac rwy’n llwyr gefnogi Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych a’u gwaith i sicrhau hynny.
Roeddwn yn falch iawn o gael y cyfle i gyfarfod â’r Prif Swyddog, Lynda Colwell, a’r staff i glywed am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac i drafod beth arall mae modd ei wneud i’w cefnogi.
Mae’n elusen wych ac mae’n haeddu ein cefnogaeth lawn. Hoffwn hefyd weld lefel uwch o ffocws gan Lywodraeth Cymru ar anghenion tai preifat yn y gogledd, ac rwy’n bwriadu codi hyn yn Senedd Cymru yn y dyfodol.
Elusen addasiadau yw Gofal a Thrwsio sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i fyw’n annibynnol, ac mae’n arbenigo mewn gwaith atgyweirio, addasiadau a chynnal a chadw cartrefi, gan wneud i bobl hŷn deimlo’n fwy diogel ac yn fwy tawel eu meddwl.
Prif nod Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yw darparu cefnogaeth a chymorth sy’n caniatáu i bobl oedrannus aros yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag sy’n ymarferol. Mae hyn yn cyd-fynd â’u harwyddair, “Gwell cartrefi, gwell iechyd”
Maen nhw’n cyflawni’r nod hwn drwy ddarparu gwasanaeth cyfannol, sy’n dechrau gan amlaf gydag ymweliad cartref gan weithiwr achos medrus a fydd yn asesu ac yn gwerthuso anghenion y cartref, ac yn cyrraedd penllanw, os oes angen hynny, gyda gosod addasiadau sy’n benodol i anghenion y cleient.
Mae eu hadroddiad blynyddol ar gyfer 2022-2023 yn dangos bod gwaith Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych wedi arbed 2,280 o ddiwrnodau gwely i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a 297 o bobl yn gallu cadw eu hannibyniaeth ar ôl i ymyriadau’r elusen ganiatáu iddyn nhw ddychwelyd adref ar ôl triniaeth ysbyty.