Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has added his voice to warnings about holiday fraud as we start the new year.
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales said:
Many of us will be looking to get away to have a break during this new year and these days more than ever we have to be on the lookout for holiday offers which could be a scam.
I welcome this timely reminder from North Wales Police Cyber Crime Unit who are warning us to be aware of holiday fraud. It really is quite worrying and very sad to see the number of people who have reported being scammed by these unscrupulous fraudsters.
I would urge anyone to make sure the holiday offer is genuine when booking flights and accommodation so they do not get scammed.
Action Fraud, the national reporting centre for fraud and cybercrime, has recently published new data showing that in the last financial year, it received 6,457 reports of holiday fraud, amounting to over £15m lost.
Dewi Owen, Cyber Crime Officer, North Wales Police is warning the public not to be tempted by too good to be true deals as they usually are and he is calling on the public to ensure they take steps to avoid falling victim of holiday fraud.
Top tips to avoid falling victim to holiday fraud include:
Do your own research: Booking your trip via a company you haven’t used before? Do some research to check they're legitimate. Read feedback from sources that you trust, such as consumer websites. You can find a company’s official website by searching for them on Google or another trusted search engine.
Look for the logo: Check whether the company is an ABTA Member. Look for the ABTA logo on the company's website. If you have any doubts, you can verify membership of ABTA online on their website. If you're booking a flight as part of a package holiday and want more information about ATOL protection, or would like to check whether a company is an ATOL holder, visit the ATOL or CAA website.
Pay safe: Book your holiday with a credit card, if you have one. Most major credit card providers protect online purchases, and are obliged to refund you in certain circumstances. Using a credit card (rather than a debit card) also means that if your payment details are stolen, your main bank account won’t be directly affected
Secure your email: If your email is hacked, it could allow a criminal to access information about your holiday booking. Use 3 randoms words to create a strong password for your email that’s different to all your other passwords. If you’re offered 2-step verification to protect your email and social media accounts, always use it.
Sam Rowlands yn tynnu sylw at bryder am sgamwyr gwyliau
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi ychwanegu ei lais at rybuddion am dwyll gwyliau wrth i ni ddechrau'r flwyddyn newydd.
Meddai Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru:
Bydd llawer ohonom yn ceisio dianc i gael seibiant yn ystod y flwyddyn newydd hon ac mae’n bwysicach nag erioed bellach ein bod yn wyliadwrus am gynigion gwyliau a allai fod yn sgâm.
Rwy'n croesawu'r nodyn atgoffa amserol hwn gan Uned Seiberdroseddu Heddlu Gogledd Cymru sy'n ein rhybuddio i fod yn ymwybodol o dwyll gwyliau. Mae'n bryder mawr ac yn dorcalonnus gweld nifer y bobl sydd wedi adrodd eu bod wedi cael eu twyllo gan y twyllwyr diegwyddor hyn.
Byddwn yn annog unrhyw un i sicrhau bod y cynnig gwyliau yn un go iawn wrth archebu hediadau a llety fel nad ydyn nhw'n cael eu sgamio.
Mae Action Fraud, y ganolfan adrodd genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddu, wedi cyhoeddi data newydd yn ddiweddar yn dangos ei fod wedi derbyn 6,457 o adroddiadau o dwyll gwyliau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, sy'n cyfateb i dros £15m wedi’i golli.
Mae Dewi Owen, Swyddog Seiberdroseddu, Heddlu Gogledd Cymru yn rhybuddio'r cyhoedd i beidio â chael eu temtio gan fargen sy’n swnio’n rhy dda i fod yn wir – gan mai dyna ydyn nhw fel arfer - ac mae'n galw ar y cyhoedd i sicrhau eu bod yn cymryd camau i osgoi dioddef twyll gwyliau.
Dyma ambell air o gyngor er mwyn osgoi cael eich twyllo gyda’ch gwyliau:
Gwnewch eich ymchwil eich hun: Ydych chi’n archebu’ch taith drwy gwmni nad ydych chi wedi'i ddefnyddio o'r blaen? Gwnewch ychydig o ymchwil i wirio fod y cwmni yn un dilys. Darllenwch adborth o ffynonellau rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw, fel gwefannau defnyddwyr. Gallwch ddod o hyd i wefan swyddogol cwmni trwy chwilio amdanyn nhw ar Google neu beiriant chwilio dibynadwy arall.
Edrychwch am y logo: Gwiriwch a yw'r cwmni'n Aelod o ABTA. Edrychwch am logo ABTA ar wefan y cwmni. Os oes gennych chi unrhyw amheuon, gallwch wirio aelodaeth o ABTA ar-lein ar eu gwefan. Os ydych chi’n archebu hediad fel rhan o wyliau pecyn ac eisiau rhagor o wybodaeth am ddiogelwch ATOL, neu os hoffech chi wirio a yw cwmni yn ddeiliad ATOL, ewch i wefan ATOL neu CAA.
Talwch yn ddiogel: Archebwch eich gwyliau gyda cherdyn credyd, os oes gennych chi un. Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr cardiau credyd mawr yn diogelu pryniannau ar-lein, ac mae'n ofynnol iddyn nhw eich ad-dalu mewn rhai amgylchiadau. Mae defnyddio cerdyn credyd (yn hytrach na cherdyn debyd) hefyd yn golygu, os caiff eich manylion talu eu dwyn, na fydd eich prif gyfrif banc yn cael ei effeithio'n uniongyrchol.
Diogelwch eich e-bost: Os yw’ch e-bost wedi'i hacio, gallai olygu bod rhwydd hynt i droseddwr gael gafael ar wybodaeth am eich archeb gwyliau. Defnyddiwch 3 gair ar hap i greu cyfrinair cryf ar gyfer eich e-bost sy'n wahanol i'ch holl gyfrineiriau eraill. Os cynigir dilysu 2 gam i ddiogelu eich e-bost a'ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, defnyddiwch yr opsiwn hwn bob amser.