Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has hit out at the latest confusion over the enforcement of the 20mph speed limits in Wales.
Mr Rowlands, a harsh critic and long-standing campaigner against the hugely unpopular legislation was commenting after Wales' First Minister, Mark Drakeford reportedly said that drivers shouldn't be fined if they are ‘genuinely confused’ as to whether they are in an area covered by default 20mph speed limits.
Mr Rowlands said he was astounded with the comments and said the First Minister clearly did not understand the law and the possible repercussions for motorists.
He said:
Quite frankly I am amazed at what I am hearing from the First Minister. If he does not understand how things work then how does he expect the general public to do so.
To say that drivers breaking the speed limit won’t be prosecuted if they are genuinely confused is absolutely mind boggling. If you break the speed limit you have committed an offence.
For the First Minister to then turn round and say instead police should educate the drivers is utter nonsense. He is a politician and does not control prosecution so it will be up to the Welsh police forces to deal with.
There is total confusion about the whole policy and I am extremely concerned that the enforcement will be so varied depending on where you live and it will be the motorists that bare the brunt.
With almost 500,000 people signing a petition against this ludicrous new law which is slowing Wales down in every sense of the word, it is about time it was scrapped.
The two Labour candidates vying for the First Minister’s job are saying they will not change the policy but will review its implementation. That is completely ridiculous. It needs throwing out.
The whole idea is bonkers and has been a complete shambles from the very start with many roads, which have never had any accidents on them, being changed to 20mph on a whim and for no other reason than the Welsh Labour Government can make these ridiculous and unwanted laws.
I once again urge the public to get behind me and support the campaign to get this law thrown out and keep fighting by signing the petition against the blanket 20mph speed limit.
Sam Rowlands AS yn beirniadu’r Prif Weinidog am achosi hyd yn oed mwy o ddryswch ynglŷn â’r cyfyngiadau cyflymder o 20mya
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi beirniadu’r dryswch diweddaraf ynghylch gorfodi'r terfynau cyflymder 20mya yng Nghymru.
Roedd Mr Rowlands, beirniad llym o’r ddeddfwriaeth hynod amhoblogaidd hon ac ymgyrchydd brwd yn ei herbyn, yn gwneud ei sylwadau ar ôl i’r Prif Weinidog, Mark Drakeford, mae’n debyg ddweud na ddylid dirwyo gyrwyr os ydyn nhw'n 'wirioneddol ddryslyd' ynghylch a ydyn nhw mewn ardal â therfynau cyflymder cyffredinol o 20mya.
Dywedodd Mr Rowlands ei fod wedi ei syfrdanu gyda'r sylwadau a dywedodd nad oedd y Prif Weinidog yn amlwg yn deall y gyfraith a'r sgil-effeithiau posib i fodurwyr.
Meddai:
A bod yn gwbl onest, rwy'n rhyfeddu at yr hyn rwy'n ei glywed gan y Prif Weinidog. Os nad yw'n deall sut mae pethau'n gweithio, sut mae'n disgwyl i'r cyhoedd wneud hynny?
Mae dweud na fydd gyrwyr sy'n torri'r terfyn cyflymder yn cael eu herlyn os ydyn nhw'n wirioneddol ddryslyd yn gwbl hurt. Os byddwch chi’n torri'r terfyn cyflymder, rydych chi wedi cyflawni trosedd.
Mae’r ffaith bod y Prif Weinidog wedyn yn mynd yn ôl ar ei air gan ddweud y dylai'r heddlu addysgu'r gyrwyr yn wirion bost. Mae'n wleidydd ac nid yw'n gyfrifol am erlyniadau felly mater i heddluoedd Cymru fydd delio â’r sefyllfa.
Mae dryswch llwyr ynglŷn â'r polisi cyfan ac rwy'n hynod bryderus y bydd yr orfodaeth yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a'r modurwyr fydd yn dioddef y canlyniadau.
Gyda bron i 500,000 o bobl yn arwyddo deiseb yn erbyn y ddeddf newydd chwerthinllyd hon sy'n arafu Cymru ym mhob ystyr o'r gair, mae'n hen bryd iddi gael ei dileu.
Mae'r ddau ymgeisydd Llafur sy'n cystadlu am swydd y Prif Weinidog yn dweud na fyddan nhw'n newid y polisi ond y byddan nhw'n adolygu’r ffordd y mae’n cael ei weithredu. Mae hynny'n hollol hurt. Mae angen ei ddileu yn llwyr.
Mae'r holl syniad yn wallgo ac mae’r cyfan wedi bod yn draed moch llwyr o'r cychwyn cyntaf gyda llawer o ffyrdd, sydd erioed wedi cael unrhyw ddamweiniau arnyn nhw, yn cael eu newid i 20mya am ddim rheswm arall ond y ffaith y gall Llywodraeth Lafur Cymru wneud y deddfau chwerthinllyd a digroeso hyn.
Unwaith eto, rwy'n annog y cyhoedd i gefnogi'r ymgyrch i ddileu’r gyfraith hon a pharhau i ymladd yn ei herbyn trwy arwyddo'r ddeiseb yn erbyn y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol.