Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, recently welcomed members of Ynys Môn YFC to the Welsh Parliament.
Mr Rowlands attended an event in the Senedd where Wales YFC launched their report about the benefits of the organisation.
He said:
It was great to meet up with young farmers from North Wales and in particular discuss the report with Will Hughes who is Ynys Môn’s County Chairman for 2023/24.
I talked to him about the report and just how important it was for young farmers, especially in rural areas, to be a part of the YFC movement.
It clearly is a fantastic organisation to be involved in and has great benefits for members and I was delighted to have the opportunity to meet several of the young people from North Wales and hear about all their activities over the last 12 months.
Mr Rowlands spent time at a stall manned by Ynys Môn YFC which has six different clubs on the island: Bodedern, Dwyran, Llangefni, Llangoed, Penmynydd and Rhosybol.
The Wales Federation of Young Farmers Clubs is a voluntary youth organisation operating bilingually throughout rural Wales. Over 5,000 young people aged between 10 and 28 years are currently members of the organisation, all of which are members of a network of 157 YFC Clubs and twelve County Federations.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Clybiau Ffermwyr Ifanc yn y Gogledd
Yn ddiweddar, cafodd Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, gyfle i groesawu aelodau CFfI Ynys Môn i’r Senedd.
Aeth Mr Rowlands i ddigwyddiad yn y Senedd lle’r oedd CFfI Cymru yn lansio adroddiad am y budd a ddaw o’r sefydliad.
Meddai:
Roedd yn wych cwrdd â ffermwyr ifanc o’r Gogledd ac yn benodol trafod yr adroddiad gyda Will Hughes, Cadeirydd Sir Ynys Môn ar gyfer 2023/24.
Cefais sgwrs gydag ef am yr adroddiad a pha mor bwysig oedd hi i ffermwyr ifanc, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, fod yn rhan o fudiad CFfI.
Mae'n amlwg bod CFfI yn sefydliad gwych i fod yn rhan ohono ac mae manteision mawr i aelodau. Roeddwn wrth fy modd yn cael y cyfle i gwrdd â nifer o'r bobl ifanc o Ogledd Cymru a chlywed am eu holl weithgareddau dros y 12 mis diwethaf.
Treuliodd Mr Rowlands amser mewn stondin gyda chriw o CFfI Ynys Môn. Mae chwe chlwb gwahanol ar yr ynys: Bodedern, Dwyran, Llangefni, Llangoed, Penmynydd a Rhosybol.
Mae Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn sefydliad ieuenctid gwirfoddol sy’n gweithredu’n ddwyieithog ledled ardaloedd gwledig Cymru. Mae dros 5,000 o bobl ifanc rhwng 10 a 28 mlwydd oed yn aelodau ar hyn o bryd, ac mae pob un ohonynt yn aelodau o rwydwaith sy’n cynnwys 157 Clwb CFfI a deuddeg Ffederasiwn Sirol.