Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has recently taken on the job of helping to develop a manifesto for the 2026 Senedd elections.
Mr Rowlands, who is also Shadow Minister for Local Government, is working with Andrew RT Davies, Conservative Leader in the Welsh Parliament, to present a new vision for the party.
Mr Rowlands said:
I am delighted to be working on this manifesto which will address the real needs of the Welsh people who have had to suffer 25 years of Welsh Labour failures.
For the last quarter of a century we have seen the NHS practically run into the ground, education in a mess, underfunding of local authorities and millions misspent on vanity projects.
The latest debacle of course was the introduction of a blanket 20mph speed limit, slowing Wales down. We even have bus services now being cancelled or rerouted because of the new legislation.
As Policy Director I have met with Conservative Senedd members, council groups and Members of Parliament to find out their views on key issues and how we can develop priorities for Wales.
I have also sought out centre-right groups and thinktanks from across the United Kingdom to ensure the Welsh Conservatives are making a vibrant offer to voters.
The manifesto will address the continuing failure of the Welsh Labour Government to grasp the serious problems facing Wales.
You can contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Sam Rowlands AS yn sôn am ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Polisi'r Ceidwadwyr Cymreig
Yn ddiweddar mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi ymgymryd â'r gwaith o helpu i ddatblygu maniffesto ar gyfer etholiadau'r Senedd yn 2026.
Mae Mr Rowlands, sydd hefyd yn Weinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn gweithio gydag Andrew RT Davies, Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, i gyflwyno gweledigaeth newydd i'r blaid.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o fod yn gweithio ar y maniffesto hwn a fydd yn mynd i'r afael ag anghenion gwirioneddol y Cymry sydd wedi gorfod dioddef 25 mlynedd o fethiannau Llafur Cymru.
Am y chwarter canrif ddiwethaf rydyn ni wedi gweld y GIG yn cael ei wthio dros y dibyn, addysg mewn llanast, awdurdodau lleol yn cael eu tanariannu a miliynau yn cael eu camwario ar brosiectau rhodresgar, disylwedd.
Y llanast diweddaraf wrth gwrs oedd cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol, gan arafu Cymru. Mae hyd yn oed gwasanaethau bws bellach yn cael eu canslo neu eu hailgyfeirio oherwydd y ddeddfwriaeth newydd.
Fel Cyfarwyddwr Polisi, dwi wedi cwrdd ag aelodau o’r Ceidwadwyr yn y Senedd, grwpiau cynghorau ac Aelodau Seneddol i glywed eu barn ar faterion allweddol a sut y gallwn ddatblygu blaenoriaethau i Gymru.
Dwi hefyd wedi chwilio am grwpiau’r dde canol a melinau trafod o bob rhan o'r Deyrnas Unedig i sicrhau bod y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynnig cyffrous i bleidleiswyr.
Bydd y maniffesto yn mynd i'r afael â methiant parhaus Llywodraeth Lafur Cymru i amgyffred y problemau difrifol sy'n wynebu Cymru.
Gallwch gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.