Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a campaign to raise £30,000 to create a special garden at a North Wales hospice.
Mr Rowlands, a keen supporter of hospices on North Wales and their fund-raising achievements said:
I am delighted to support St Kentigern’s Hospice in St Asaph, who have launched a ‘Grow Our Gardens’ campaign to raise £30,000 to develop a special garden area.
The money raised will fund a project to create a ‘hospice garden’ which will provide a peaceful place for people to and sit and enjoy a warming and caring environment.
We all know the benefits of being able to be outside and enjoy nature and this ‘hospice garden’ will be a great asset to the hospice for patients and families for years to come. I fully support and wish them every success with their campaign.
St Kentigern was gifted a large plot of land from Castle Green Homes, at the back of the hospice, off the existing gardens, and this will be used for the new garden.
This innovative project includes key features like sensory gardens, comfortable seating areas, therapeutic landscaping, accessible pathways, and community involvement.
Jane McGrath, CEO of St Kentigern Hospice expressed enthusiasm about the project, and said:
Our Hospice Garden represents our ongoing commitment to compassionate care and improving the lives of those in our community.
We believe that this dedicated space will provide solace, comfort, and moments of respite for individuals facing difficult life limiting diagnosis or the end of their life.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cynlluniau i greu 'gardd hosbis'
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i godi £30,000 i greu gardd arbennig mewn hosbis yn y Gogledd.
Meddai Mr Rowlands, cefnogwr brwd hosbisau yn y Gogledd a'u hymdrechion i godi arian:
Rwy'n falch iawn o gefnogi Hosbis St Kentigern yn Llanelwy, sydd wedi lansio ymgyrch 'Tyfu Ein Gerddi' i godi £30,000 tuag at ddatblygu gardd arbennig.
Bydd yr arian a godir yn ariannu prosiect i greu 'gardd hosbis' a fydd yn darparu lle heddychlon i bobl eistedd a mwynhau amgylchedd cynnes a gofalgar.
Rydyn ni i gyd yn gwybod y manteision o allu bod allan a mwynhau byd natur a bydd yr 'ardd hosbis' hon yn gaffaeliad mawr i'r hosbis ac i gleifion a theuluoedd am flynyddoedd lawer i ddod. Rwy'n cefnogi ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda'u hymgyrch.
Rhoddwyd llain fawr o dir i’r hosbis gan Castle Green Homes, yng nghefn yr hosbis, ger y gerddi presennol, a bydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr ardd newydd.
Mae'r prosiect arloesol hwn yn cynnwys nodweddion allweddol fel gerddi synhwyraidd, mannau eistedd cyfforddus, tirlunio therapiwtig, llwybrau hygyrch, a chyfranogiad cymunedol.
Mae Jane McGrath, Prif Swyddog Gweithredol Hosbis St Kentigern yn llawn brwdfrydedd am y prosiect, a dywedodd:
Mae ein Gardd Hosbis yn cynrychioli ein hymrwymiad parhaus i ofal tosturiol ac i wella bywydau'r rhai sydd yn ein cymuned.
Credwn y bydd y gofod pwrpasol hwn yn rhoi cysur, tawelwch ac ychydig o seibiant i unigolion sy'n wynebu diagnosis anodd neu sy’n tynnu at ddiwedd eu hoes.