Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has called on the Health Minister to set a date when healthcare problems will be fixed in North Wales.
Mr Rowlands is a harsh critic of the North Wales Health Board’s performance which this week marks one year since it was placed back in special measures.
Speaking in the Senedd, during a statement by the Minister for Health and Social Services: special measures at Betsi Cadwaladr University Health Board—one year on, he said:
The recent Audit Wales Report made for a sobering read and it shows there's still much to do. While there is a level of improvement, there's much, much more to do be done to give the people I represent in North Wales the health service that they deserve.
The report talks of fundamental challenges that still face the health board. There are references to substantive appointments, the need for a cohesive and unified board, the need to deal with personnel issues. This, to me, points to significant issues within the management structure that still haven't been fully fixed. Granted, it does take time, but we are a year down the track.
In amongst all of this, in the bigger picture of things, there are real people—patients, a stretched workforce, residents that I'm elected to represent. They've been waiting a long time for these issues to be fixed—not just this past year, but for years and years beforehand.
He called on the Minister, Eluned Morgan, for a date when residents would have the right level of access to healthcare in North Wales.
Mr Rowlands also expressed disappointment on Labour’s failure to back a Welsh Conservative motion, in the Senedd this week, to ensure high-quality healthcare in North Wales.
Speaking during the debate, he said:
The one issue that strikes me most at the moment is our emergency department, where just 83% of patients are being seen within a 12-hour waiting time target. That means that nearly 20% of people are having to wait more than 12 hours in our emergency department. That's not a position that any of us wants to be in and our residents should not accept that, either.
It's Labour's underfunding that is causing people to suffer in North Wales. Two years ago, the Welsh Government set a target that no-one should wait eight weeks or more for a diagnostic test, which is a wonderful target and it is very, very important, but, as of November last year, a staggering 40 % of waits were longer than the eight-week target—47,000 people waiting longer than the target that's in place.
The point here is that I just don't think Welsh Government completely gets it—the experiences that my residents are feeling, day in, day out, in North Wales. I think another highlight of this that shows this issue is the recent leadership debate that took place in Mold between Mr Gething and Mr Miles, as they were drumming up support from the Labour faithful up in Mold.
In that debate, there was not a single question about the NHS. From my understanding, actually, questions were filtered and not one question in that debate was about the NHS. So, when it comes to getting this issue and understanding what residents in North Wales are facing, to have not one question about the NHS, I think is something for the Labour Party to reflect on here in Wales.
Sam Rowlands AS yn galw am derfyn amser ar gyfer gwelliannau mewn gofal iechyd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi galw ar y Gweinidog Iechyd i bennu dyddiad terfyn ar gyfer datrys problemau gofal iechyd yn y Gogledd.
Mae Mr Rowlands yn feirniad llym o berfformiad Bwrdd Iechyd Gogledd Cymru a hithau’n flwyddyn yr wythnos hon ers iddo gael ei osod dan fesurau arbennig.
Wrth siarad yn y Senedd, yn ystod datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - flwyddyn yn ddiweddarach, dywedodd:
Roedd Adroddiad diweddar Archwilio Cymru yn peri cryn ofid ac mae'n dangos bod llawer i'w wneud o hyd. Er bod yna lefel o welliant, mae llawer, llawer mwy i'w wneud i roi'r gwasanaeth iechyd y maen nhw'n ei haeddu i'r bobl rwy'n eu cynrychioli yn y Gogledd.
Mae'r adroddiad yn sôn am heriau sylfaenol sy'n wynebu'r bwrdd iechyd o hyd. Mae cyfeiriadau at benodiadau diri, yr angen am fwrdd cydlynol ac unedig, yr angen i ddelio â materion personél. Mae hyn, i mi, yn tynnu sylw at faterion pwysig o fewn y strwythur rheoli nad ydyn nhw wedi'u datrys yn llawn o hyd. Mae hyn yn amlwg yn cymryd amser, ond mae blwyddyn wedi mynd heibio bellach.
Yng nghanol hyn i gyd, o edrych ar y darlun ehangach, mae yna bobl go iawn - cleifion, gweithlu dan bwysau, trigolion yr wyf wedi fy ethol i'w cynrychioli. Maen nhw wedi bod yn aros am amser maith i'r materion hyn gael eu datrys - nid yn unig y flwyddyn ddiwethaf, ond am flynyddoedd a blynyddoedd cyn hynny.
Galwodd ar y Gweinidog, Eluned Morgan, i roi dyddiad pan fyddai gan breswylwyr y lefel briodol o fynediad at ofal iechyd yn y Gogledd.
Mynegodd Mr Rowlands siom hefyd ar fethiant Llafur i gefnogi cynnig y Ceidwadwyr Cymreig, yn y Senedd yr wythnos hon, i sicrhau gofal iechyd o ansawdd uchel yn y Gogledd.
Wrth siarad yn ystod y ddadl, dywedodd:
Yr un mater sy'n fy nharo fwyaf ar hyn o bryd yw ein hadran achosion brys, lle mai dim ond 83% o gleifion sy'n cael eu gweld o fewn y targed amser aros o 12 awr. Mae hynny'n golygu bod bron i 20% o bobl yn gorfod aros mwy na 12 awr yn ein hadran achosion brys. Dyw honno ddim yn sefyllfa y mae unrhyw un ohonom ni eisiau bod ynddi ac ni ddylai ein trigolion dderbyn hynny, chwaith.
Tanariannu Llafur sy'n achosi i bobl ddioddef yng Ngogledd Cymru. Ddwy flynedd yn ôl, gosododd Llywodraeth Cymru darged na ddylai unrhyw un aros wyth wythnos neu fwy am brawf diagnostig, sy'n darged gwych ac mae'n bwysig iawn, iawn, ond, ym mis Tachwedd y llynedd, roedd 40% o arosiadau yn hirach na'r targed wyth wythnos—47,000 o bobl yn aros yn hirach na'r targed sydd yn ei le.
Y pwynt yma yw nad ydw i'n meddwl bod Llywodraeth Cymru yn llawn ddirnad y peth - y profiadau mae fy nhrigolion yn eu teimlo, o ddydd i ddydd, yn y Gogledd. Fe wnaeth dadl arweinyddiaeth ddiweddar a gynhaliwyd yn yr Wyddgrug rhwng Mr Gething a Mr Miles hefyd danlinellu hynny, wrth iddyn nhw geisio ennyn cefnogaeth y ffyddloniaid Llafur yn yr Wyddgrug.
Yn y ddadl honno, doedd dim un cwestiwn am y GIG. O’r hyn a ddeallaf, fe gafodd y cwestiynau eu hidlo a doedd dim un cwestiwn yn y ddadl honno yn ymwneud â'r GIG. Felly, o safbwynt deall y mater hwn a deall yr hyn y mae trigolion y Gogledd yn ei wynebu, i beidio â chael yr un cwestiwn am y GIG, rwy'n credu ei fod yn rhywbeth i'r Blaid Lafur ei bwyso a’i fesur go iawn yma yng Nghymru.