Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed his support for farmers protesting against the Welsh Government’s proposed sustainable farming scheme.
Mr Rowlands, a keen supporter of the agricultural industry and a regular visitor to farms in North Wales said he supported farmers who have been making their feelings known across Wales.
As thousands of protesters from farming communities gathered outside Welsh Parliament in Cardiff, speaking in the Senedd, Mr Rowlands asked the Minister for Rural Affairs for an update on the expected impact of the rollout of the sustainable farming scheme on farmers in North Wales.
He said:
Outside here thousands of farmers are standing up for their communities, their farms and their very way of life. They see the current proposals in the SFS as an attack on rural Wales and the people who cultivate and nurture our land, and it's obvious why.
Your own impact assessment estimates that 5,500 jobs in rural Wales will be lost as a result, a £200 million hit to the economy, with around 11% fewer livestock in Wales. And these numbers are shocking and should really give serious pause for thought, which I know is something you're looking to do.
But it's not just farmers themselves who are likely to suffer, but those in the supply chain too, and by damaging those farm incomes there will be damage to the agri-food supply chain and all those livelihoods that depend on it.
Minister, I wonder what consideration you're giving and what you're looking to do to not just protect the supply chain, but to help it thrive?
The Minister, Lesley Griffiths told members that nothing had been decided and the current proposal was a consultation.
Mr Rowlands added:
We all know that this Welsh Labour Government does not listen when it comes to consultations. You only have to look at the debacle of introducing the ridiculous 20mph speed limit across the country.
I just hope they realise the great depth of feeling from farming communities against this unacceptable proposed scheme and it is withdrawn. I would also urge those who have not taken part in the consultation to make sure they do so before it closes on Thursday March 7.
Sam Rowlands AS yn cefnogi ffermwyr sy’n protestio yn erbyn cynllun newydd
Mae Sam Rowlands, Aelod o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, wedi datgan ei gefnogaeth i ffermwyr sy’n protestio yn erbyn cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Sam Rowlands, cefnogwr brwd i’r diwydiant amaethyddol ac ymwelydd cyson â ffermydd yn y Gogledd, ei fod yn cefnogi ffermwyr sydd wedi bod yn mynegi eu teimladau ledled Cymru.
Wrth i filoedd o brotestwyr o gymunedau ffermio ymgynnull y tu allan i Senedd Cymru yng Nghaerdydd, gofynnodd Mr Rowlands i’r Gweinidog Materion Gwledig yn y Senedd am ddiweddariad ar effaith ddisgwyliedig cyflwyno’r cynllun ffermio cynaliadwy ar ffermydd yn y Gogledd.
Meddai:
Y tu allan i’r Senedd mae miloedd o ffermwyr yn sefyll dros eu cymunedau, eu ffermydd a’u ffordd o fyw. Maen nhw’n gweld y cynigion cyfredol yn y Cynllun Ffermio Cynaliadwy fel ymosodiad ar gefn gwlad Cymru a’r bobl sy’n trin a meithrin ein tir, ac mae’n amlwg pam.
Mae’ch asesiad effaith eich hun yn amcangyfrif y bydd 5,500 o swyddi yng nghefn gwlad Cymru’n cael eu colli o ganlyniad, ergyd gwerth £200 miliwn i’r economi, gyda thua 11% yn llai o dda byw yng Nghymru. Mae’r niferoedd hyn yn syfrdanol ac mae wir angen cnoi cil arnyn nhw, ac rwy’n gwybod eich bod yn bwriadu gwneud hynny.
Ond nid ffermwyr yn unig sy’n debygol o ddioddef, ond y rhai yn y gadwyn gyflenwi hefyd, a thrwy niweidio incymau’r ffermydd hynny bydd niwed yn cael ei achosi i’r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth a’r holl fywoliaethau sy’n dibynnu arni.
Weinidog, tybed pa ystyriaeth ydych chi’n ei rhoi i hyn a beth ydych chi’n bwriadu ei wneud nid yn unig i ddiogelu’r gadwyn gyflenwi, ond i’w helpu i ffynnu?”
Dywedodd y Gweinidog, Lesley Griffiths, nad oedd unrhyw beth wedi’i benderfynu ac mai ymgynghoriad oedd y cynnig cyfredol.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Rydyn ni i gyd yn gwybod nad yw’r Llywodraeth Lafur hon yn gwrando ar ymgynghoriadau. Does ond rhaid i chi edrych ar ffiasgo cyflwyno’r terfyn cyflymder hurt o 20mya ar draws y wlad.
Dwi ond yn gobeithio y byddan nhw’n sylweddoli pa mor gryf yw’r teimladau’r cymunedau ffermio yn erbyn y cynllun arfaethedig annerbyniol ac yn ei ddileu. Fe fydden i’n annog pawb sydd heb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud hynny cyn iddo gau ddydd Iau 7 Mawrth.