Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says it is a scandal that all monies received from the UK Government for the NHS is not passed on to the service in Wales.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, was commenting on an FOI response from the NHS Wales Shared Services Partnership, which showed that only one small primary care premises has been built in Wales in the last 10 years.
He said:
That lack of investment is quite troubling, certainly given the disproportionate impact that smaller surgeries can have when they're built in a rural community.
It's also troubling that 99 GP surgeries across Wales have closed in recent years, which creates a further barrier for those rural communities.
One example that comes up in my region is that of Hanmer surgery, which has been recently covered in a Channel 4 television programme, highlighting the quality of care that people receive there, but also highlighting that the premises is not fit for purpose and that investment is required. Local people are frustrated at the pace of progress, which is painful.
Only last week Mr Rowlands vowed to keep fighting to save GP surgeries in Wales during a Welsh Conservative debate: GP practices and funding.
He said:
Labour Senedd Members have rejected our calls to improve GP access by adopting BMA Cymru Wales’ key campaign calls and ensuring that every penny arising from the UK Government’s health spending is made available for our Welsh NHS.
The Welsh Conservatives will not give up and will keep fighting to save our GP surgeries.
Sam Rowlands AS yn poeni am ddyfodol meddygfeydd yng nghefn gwlad
Dywed Sam Rowlands AS ei bod hi'n warthus nad yw'r holl arian a dderbynnir gan Lywodraeth y DU ar gyfer y GIG yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaeth yng Nghymru.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, yn gwneud sylw ar ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, a ddangosodd mai dim ond un safle gofal sylfaenol bach sydd wedi'i adeiladu yng Nghymru yn ystod y 10 mlynedd diwethaf.
Meddai:
Mae'r diffyg buddsoddi hwnnw'n peri eithaf pryder, yn sicr o ystyried yr effaith anghymesur y gall meddygfeydd llai ei chael pan fyddan nhw’n cael eu hadeiladu mewn cymuned wledig.
Mae hefyd yn peri pryder bod 99 o feddygfeydd teulu ledled Cymru wedi cau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, sy'n creu rhwystr arall i'r cymunedau gwledig hynny.
Un enghraifft sy'n codi yn fy rhanbarth i yw meddygfa Hanmer, sydd wedi’i chynnwys yn ddiweddar mewn rhaglen deledu ar Channel 4, sy’n tynnu sylw at ansawdd y gofal mae pobl yn ei dderbyn yno, ond hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r safle’n addas i'r diben a bod angen buddsoddi. Mae pobl leol yn rhwystredig ar gyflymder y cynnydd, sy'n boenus o araf.
Dim ond yr wythnos diwethaf fe wnaeth Mr Rowlands addo parhau i ymladd i achub meddygfeydd yng Nghymru yn ystod dadl gan y Ceidwadwyr Cymreig: practisau meddygon teulu a chyllid.
Meddai:
Mae Aelodau Llafur o'r Senedd wedi gwrthod ein galwadau i wella mynediad at feddygon teulu trwy fabwysiadu galwadau ymgyrch allweddol BMA Cymru Wales a sicrhau bod pob ceiniog o wariant iechyd llywodraeth y DU ar gael ar gyfer ein GIG yng Nghymru.
Ni fydd y Ceidwadwyr Cymreig yn rhoi'r gorau iddi a byddant yn parhau i ymladd i achub ein meddygfeydd.