Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales has been giving sixth formers an insight into his role.
Mr Rowlands, Shadow Health Minister, recently took part in a question and answer session with students studying A Level politics at Deeside 6th Form Centre.
He said:
I really enjoyed my time with the students. They asked me a lot of challenging and insightful questions about local and national issues including the NHS, education, tax and foreign policy.
They were all studying politics so it was great to see them so enthusiastic for their subject and keen to know about the workings of the Welsh Parliament.
It is always good to have the opportunity to meet with young people and hear what they have to say as they are the politicians of the future.
The Deeside Sixth Form Centre was established in 2016 and provides facilities and a broader curriculum of choice for post 16 learners in Flintshire.
It was jointly developed by Coleg Cambria, local schools and Flintshire County Council and apart from offering general teaching classrooms and social and private study spaces it also has specialist performing arts, music, science and creative arts facilities.
Sam Rowlands AS yn cwrdd â disgyblion yng Nghanolfan 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi bod yn rhoi blas ar ei rôl i ddisgyblion chweched dosbarth.
Yn ddiweddar, bu Mr Rowlands, Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, yn cymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda myfyrwyr sy'n astudio gwleidyddiaeth i Safon Uwch yng Nghanolfan 6ed Dosbarth Glannau Dyfrdwy.
Meddai:
Mi wnes i wir fwynhau fy amser gyda'r myfyrwyr. Mi wnaethon nhw ofyn llawer o gwestiynau heriol a chraff i mi am faterion lleol a chenedlaethol gan gynnwys y GIG, addysg, treth a pholisi tramor.
Roedden nhw i gyd yn astudio gwleidyddiaeth felly roedd hi’n wych eu gweld mor frwdfrydig am y pwnc ac yn awyddus i wybod sut mae’r Senedd yn gweithio.
Mae bob amser yn dda cael y cyfle i gwrdd â phobl ifanc a chlywed beth sydd ganddyn nhw i'w ddweud gan mai nhw yw gwleidyddion y dyfodol.
Sefydlwyd Canolfan Chweched Dosbarth Glannau Dyfrdwy yn 2016 ac mae'n darparu cyfleusterau a chwricwlwm ehangach o ddewis ar gyfer dysgwyr ôl-16 yn Sir y Fflint.
Fe'i datblygwyd ar y cyd gan Goleg Cambria, ysgolion lleol a Chyngor Sir y Fflint ac ar wahân i gynnig ystafelloedd addysgu cyffredinol a mannau astudio cymdeithasol a phreifat mae gan y ganolfan hefyd gyfleusterau celfyddydau perfformio, cerddoriaeth, gwyddoniaeth a chelfyddydau creadigol arbenigol.