Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has expressed his delight at news that tourism in Wrexham is continuing to grow.
Mr Rowlands, Chair of the Senedd’s Cross Party Group on Tourism and a big supporter of attracting more visitors to North Wales said:
Everybody knows how passionate I am about encouraging tourism in my Region of North Wales and I am absolutely delighted to hear that data shows that Wrexham is continuing to be the destination of choice for tourists.
The city is clearly now on the visitor radar thanks to the Wrexham AFC documentary and welcomes people from all over the world. It also has a university, which has been ranked the top in Wales for teaching for the second year running and attracts students from far and wide.
Tourism is a huge part of our Welsh economy as it is such an incredible place to visit. I would argue that North Wales in particular is probably one of the most special places when it comes to the visitor economy and I am really pleased to see how Wrexham has continued to grow.
My only concern for North Wales is the Welsh Government's policies towards the tourism sector with the proposed tourism tax and the punishing new taxes on holiday lets which is putting a huge strain on the industry. They really need to do more to back this sector in North Wales and make sure cities like Wrexham continue to be a destination of choice.
The annual 2023 tourism data for Wales reveals that Wrexham County experienced it’s strongest annual performance since records began in 2023, with a near 20% year-on-year growth in visitor spend.
The annual STEAM Data (which Local Authority areas across the UK commonly use to measure tourism performance) shows that Wrexham’s revival since the pandemic continues to grow at a strong pace, with the value of tourism for Wrexham increasing by 18.2% from 2022 to £179.4m today.
This also reflects a huge growth of 82% in the last decade – the strongest in Wales, demonstrating the development of the county as a competitive leisure and business destination.
Total visitor numbers grew in 2023 by 6.6% with just over two million visiting the county last year, with an 8.1% growth in day visitors, although overnight stays grew by just 1.3%, possibly reflecting the need for additional, high-quality accommodation.
Sam Rowlands AS yn falch o weld cynnydd yn nhwf twristiaeth yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi mynegi ei bleser gyda'r newyddion bod twristiaeth yn Wrecsam yn parhau i dyfu.
Meddai Mr Rowlands, Cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Dwristiaeth a chefnogwr brwd o ymdrechion i ddenu mwy o ymwelwyr ‘r Gogledd:
Mae pawb yn gwybod pa mor angerddol ydw i am annog twristiaeth yn fy rhanbarth i yn y Gogledd ac rwy'n falch iawn o glywed bod data'n dangos bod Wrecsam yn parhau i fod yn gyrchfan o ddewis i dwristiaid.
Mae'r ddinas yn amlwg bellach ar fapiau ymwelwyr diolch i raglen ddogfen Clwb Pêl-droed Wrecsam ac yn croesawu pobl o bedwar ban byd. Mae ganddi brifysgol hefyd, sydd wedi cyrraedd y brig yng Nghymru am addysgu am yr ail flwyddyn yn olynol ac sy'n denu myfyrwyr o bell ac agos.
Mae twristiaeth yn rhan enfawr o'n heconomi yng Nghymru gan ei bod yn wlad mor anhygoel i ymweld â hi. Byddwn i'n dadlau bod y Gogledd yn benodol yn un o'r llefydd mwyaf arbennig o ran yr economi ymwelwyr ac rwy'n falch iawn o weld sut mae Wrecsam wedi parhau i dyfu.
Fy unig bryder dros y Gogledd yw polisïau Llywodraeth Cymru tuag at y sector twristiaeth gyda'r dreth dwristiaeth arfaethedig a'r trethi newydd ar lety gwyliau sy'n rhoi straen enfawr ar y diwydiant. Mae gwir angen iddyn nhw wneud mwy i gefnogi'r sector hwn yn y Gogledd a sicrhau bod dinasoedd fel Wrecsam yn parhau i fod yn gyrchfan o ddewis.
Mae data twristiaeth blynyddol Cymru 2023 yn datgelu bod Sir Wrecsam wedi profi ei pherfformiad blynyddol cryfaf ers i gofnodion ddechrau yn 2023, gyda thwf o bron i 20% flwyddyn ar ôl blwyddyn mewn gwariant ymwelwyr.
Mae data blynyddol STEAM (y mae ardaloedd awdurdodau lleol ledled y DU yn eu defnyddio'n gyffredin i fesur perfformiad twristiaeth) yn dangos bod adfywiad Wrecsam ers y pandemig yn parhau i dyfu ar gyflymder sylweddol, gyda gwerth twristiaeth i Wrecsam yn cynyddu 18.2% ers 2022 i £179.4m heddiw.
Mae hyn hefyd yn adlewyrchu twf enfawr o 82% yn ystod y degawd diwethaf - y cryfaf yng Nghymru, gan ddangos datblygiad y sir fel cyrchfan hamdden a busnes cystadleuol.
Cafwyd twf o 6.6% yn nifer yr ymwelwyr yn 2023 gydag ychydig dros ddwy filiwn yn ymweld â'r sir y llynedd, gyda thwf o 8.1% yn nifer yr ymwelwyr dydd, er mai dim ond 1.3% oedd yn aros dros nos, gan adlewyrchu'r angen am lety ychwanegol o ansawdd uchel.