Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a scheme offering free football sessions for children this Autumn.
Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging young people to keep active and enjoy sport, is supporting free football for youngsters in Ponciau.
He said:
As everybody knows I am passionate about encouraging children to take part in sport and it is great to see organisations working together to give youngsters the opportunity to play football for free.
It is always difficult to return to school after the long Summer holidays and I am delighted to see this free activity on offer to keep our children engaged through the Autumn term.
If you are ages 9-14 years and interested in taking part in the sessions then it is well worth signing up.
During this Autumn term Active Wrexham and Wrexham Youth Service are working together to run free football sessions for school years 5-9.
They will take place on Wednesday evenings, from 6.00-7.00pm at Ponciau Banks MUGA (Baptist Street, Ponciau, LL14 1RL) and started on Wednesday September 11.
The aim of the sessions, which will run through to Wednesday October 23, and possibly beyond, is to give local young people the chance to engage in positive behaviour within a community setting.
It will be a turn up and play session and there will be no cost involved and you can join at any time. The pitch at The Muga is concrete so trainers will need to be worn.
In the event of bad weather, the session may have to be cancelled. A decision will be made on the day.
A consent form will need to be completed, this is available on a website called Upshot, or you can email [email protected], for more information.
Sam Rowlands AS yn cefnogi sesiynau chwaraeon i bobl ifanc yn Wrecsam
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi cynllun sy'n cynnig sesiynau pêl-droed am ddim i blant yr hydref hwn.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o annog pobl ifanc i gadw'n heini a mwynhau chwaraeon, yn cefnogi pêl-droed am ddim i bobl ifanc ym Mhonciau.
Meddai:
Fel mae pawb yn ei wybod, rwy'n angerddol am annog plant i gymryd rhan mewn chwaraeon ac mae'n wych gweld sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd i roi cyfle i bobl ifanc chwarae pêl-droed am ddim.
Mae bob amser yn anodd dychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau hir yr Haf ac rwy'n falch iawn o weld y gweithgaredd rhad ac am ddim hwn ar gael i gadw ein plant yn ddiddan trwy dymor yr Hydref.
Os ydych chi rhwng 9 a 14 oed a bod gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y sesiynau hyn, yna mae'n werth cofrestru.
Yn ystod tymor yr Hydref mae Wrecsam Egnïol a Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn gweithio gyda'i gilydd i gynnal sesiynau pêl-droed am ddim ar gyfer blynyddoedd ysgol 5-9.
Byddant yn cael eu cynnal nos Fercher, 6.00-7.00pm yn Ponciau Banks MUGA (Stryd y Bedyddwyr, Ponciau, LL14 1RL) ac yn dechrau ddydd Mercher 11 Medi.
Nod y sesiynau, a fydd yn cael eu cynnal tan ddydd Mercher 23 Hydref, ac o bosibl y tu hwnt, yw rhoi cyfle i bobl ifanc lleol gymryd rhan mewn ymddygiad cadarnhaol mewn lleoliad cymunedol.
Sesiynau troi i fyny a chwarae fyddan nhw, rhad ac am ddim, a gallwch ymuno ar unrhyw adeg. Mae'r cae yn y Muga yn goncrit felly bydd angen gwisgo esgidiau rhedeg.
Os bydd y tywydd yn wael, efallai y bydd yn rhaid canslo'r sesiwn. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar y diwrnod.
Bydd angen llenwi ffurflen gydsynio, mae hon ar gael ar wefan o'r enw Upshot, neu gallwch anfon neges e-bost at [email protected], am ragor o wybodaeth.