Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says it is almost impossible for councils to change roads back to 30mph because the criteria is too strict.
Mr Rowlands, a long-time critic of the introduction of the 20mph default speed limit claims the guidance for councils will do very little to satisfy angry and frustrated motorists.
He said:
I have said many times since this nonsensical and crazy law was introduced the Welsh Government is not prepared to listen to what the public wants and should be scrapped.
Almost half a million people in Wales signed a petition against this implementation, however, this was totally ignored by Welsh Government and they pressed ahead. Not considering the fall out for the public, services, businesses and the economy.
Only last month I warned that the so called ‘listening campaign’ would lead to hardly any roads being reverted back to 30mph and I remain extremely concerned that the criteria for councils to change roads from 20mph back to 30mph is far too strict and takes no account of what local people think.
I recently heard that councillors in Kinmel Bay have written to Conwy County Borough Council to request that Foryd Road and St Asaph Avenue have their speed limits changed, however, because of the strict criteria this is unlikely to happen.
I often drive along both these roads and quite clearly they could be reverted back to 30mph. There are also many roads across North Wales in the same situation and it really isn’t good enough.
I do have some sympathy for local councils as their hands appear to be tied when it comes to making decisions about the speed limits but I believe the criteria is unworkable and needs urgently reviewing.
Sam Rowlands AS yn galw am adolygiad brys i’r meini prawf ar gyfer newid ffyrdd o 20mya yn ôl i 30mya
Yn ôl Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, mae hi bron yn amhosib i gynghorau newid ffyrdd yn ôl i 30mya oherwydd bod y meini prawf yn rhy llym.
Mae Mr Rowlands, beirniad hirdymor o gyflwyno'r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya, yn honni na fydd y canllawiau i gynghorau yn gwneud fawr ddim i fodloni modurwyr blin a rhwystredig.
Meddai:
Rydw i wedi dweud droeon ers cyflwyno'r gyfraith wirion a gwallgo hon nad yw Llywodraeth Cymru yn barod i wrando ar yr hyn y mae'r cyhoedd ei eisiau ac am ei weld yn cael ei ddileu.
Fe wnaeth bron i hanner miliwn o bobl yng Nghymru arwyddo deiseb yn erbyn y cynllun hwn, fodd bynnag, cafodd hyn ei anwybyddu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru ac fe wnaethon nhw ddal ati’n ddi-hid. Heb unrhyw ystyriaeth i'r cyhoedd, gwasanaethau, busnesau a'r economi.
Cwta fis yn ôl, rhybuddiais y byddai'r 'ymgyrch wrando' fel y'i gelwir yn arwain at fawr ddim ffyrdd yn newid yn ôl i fod yn rhai 30mya ac rwy'n parhau i fod yn hynod bryderus bod y meini prawf i gynghorau ar newid 20mya yn ôl i 30mya yn llawer rhy llym ac nad ydyn nhw’n ystyried barn y bobl.
Clywais yn ddiweddar fod cynghorwyr ym Mae Cinmel wedi ysgrifennu at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i i ofyn am gael newid terfynau cyflymder Ffordd y Foryd a Rhodfa Llanelwy. Fodd bynnag, oherwydd y meini prawf llym mae hyn yn annhebygol o ddigwydd.
Rwy'n aml yn gyrru ar hyd y ddwy lôn yma ac mae’n eithaf amlwg y gallen nhw gael eu newid yn ôl i fod yn rhai 30mya. Mae yna ffyrdd di-ri ledled y Gogledd yn yr un sefyllfa a dydy’r sefyllfa hon ddim yn ddigon da.
Mae gen i rywfaint o gydymdeimlad â chynghorau lleol gan fod eu dwylo fel pe baen nhw wedi’u clymu wrth orfod gwneud y penderfyniadau hyn, ond rwy'n credu bod y meini prawf yn anymarferol ac mae angen eu hadolygu ar unwaith.