Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a warning from police about cold callers operating in the region.
Mr Rowlands, a keen supporter of North Wales Police is reminding people to be on their guard if someone knocks on their door and offers to work on their property.
He said:
Unfortunately there are individuals out there who will take advantage of vulnerable people and I strongly urge anyone accepting offers of work from someone at your door to be extremely cautious.
If you do want some work carried out at your property then make sure you use a reputable trader who is recommended by family or friends and do not pay any money upfront.
It saddens me that these cold callers exist and you can unwittingly be taken in and I would remind everyone to just take a step back and if something sounds too good to be true then it probably is.
North Wales Police have sent out a warning to residents in the Wrexham rural area reminding them about the importance of being cautious around individuals knocking on the door and offering to carry out work to your property.
If you accept offers of work from someone at your door you will always run the risk of work not being done to your satisfaction. Also be cautious if they ask for the money upfront - you leave yourself open to further risk of financial loss if you pay this way.
As always if anyone knocks on your door asking if you want work done and they become pushy or aggressive, then close the door and if you feel threatened call the police.
If you have unfortunately experienced this recently and haven't already done so, please report it to Wrexham Council Trading Standards Department at Wrexham Council.
Sam Rowlands AS yn rhybuddio etholwyr i fod yn wyliadwrus o fasnachwyr twyllodrus yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi rhybudd gan yr heddlu ynglŷn â galwyr diwahoddiad sy'n gweithredu yn y rhanbarth.
Mae Mr Rowlands, un o gefnogwyr brwd Heddlu Gogledd Cymru, yn atgoffa pobl i fod ar eu gwyliadwriaeth os bydd rhywun yn curo ar eu drws ac yn cynnig gweithio ar eu heiddo.
Meddai:
Yn anffodus mae yna unigolion diegwyddor a fydd yn manteisio ar bobl fregus ac rwy'n annog unrhyw un sy'n derbyn cynigion o waith gan rywun ar garreg eu drws i fod yn hynod ofalus.
Os ydych chi eisiau gwneud rhywfaint o waith yn eich eiddo, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio masnachwyr sydd ag enw da, sy'n cael eu hargymell gan deulu neu ffrindiau a chofiwch beidio â thalu’r un geiniog ymlaen llaw.
Mae'n fy nhristáu fod y galwyr digroeso hyn ar waith ac y gall rhywun gael ei dwyllo’n ddiarwybod. Hoffwn eich atgoffa i gymryd cam yn ôl ac i gofio, os yw’n swnio'n rhy dda i fod yn wir, yna mae'n debyg ei fod o.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi anfon rhybudd at drigolion ardal wledig Wrecsam yn eu hatgoffa am bwysigrwydd bod yn ofalus pan ddaw unigolion i guro ar eu drws a chynnig gwneud gwaith i'w heiddo.
Os ydych chi’n derbyn cynigion o waith gan rywun ar garreg eich drws, byddwch bob amser yn wynebu’r risg na fydd y gwaith yn cael ei wneud fel yr hoffech. Gofal piau hi hefyd os byddant yn gofyn am yr arian ymlaen llaw - os ydych chi’n talu fel hyn rydych chi’n rhoi eich hun mewn sefyllfa o risg ac o golled ariannol.
Cofiwch, os oes unrhyw un yn curo ar eich drws yn gofyn a ydych chi eisiau gwaith wedi'i wneud a'u bod yn rhoi pwysau arnoch neu’n ymosodol, yna caewch y drws. Ac os ydych chi'n teimlo dan fygythiad, ffoniwch yr heddlu.
Os ydych chi wedi profi hyn yn ddiweddar ac nad ydych chi eisoes wedi gwneud hynny, rhowch wybod i Adran Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yng Nghyngor Wrecsam.