Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on farmers in North Wales to apply to become the Welsh Livestock Champion of the Year.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, a keen supporter of the agricultural industry, is backing NFU Cymru and NFU Mutual who are on the lookout to find a ’Livestock Champion’ working in the agricultural industry in Wales.
He said:
We all know that Wales produces some of the best quality beef and lamb in the world and I believe it is a great idea to recognise the skills of those people who look after our cattle and sheep.
I am a very keen supporter of Welsh farmers and happy to highlight all the hard work they do to keep the nation fed.
I would certainly urge livestock producers in my region of North Wales to enter the competition or nominate someone they know for this prestigious award.
NFU Cymru and NFU Mutual are looking for the 10th winner of the Welsh Livestock Champion of the Year Award to spotlight dedicated, committed and enthusiastic livestock persons from all across Wales. The award winner will receive a top prize of £500 and a Welsh Royal Crystal Trophy.
Rob Lewis, Chairman of NFU Cymru’s Livestock Board, who will judge on behalf of NFU Cymru, said:
In Wales we have some of the best quality beef and sheep in the world, produced to the highest animal health and welfare standards. This award aims to celebrate excellence amongst Welsh livestock producers.
We want to recognise the key role an exceptional livestock person can make to a livestock farm, and to the Welsh livestock industry as a whole. Potential winners will be judged on their management of the flock/herd, their animal health planning, breeding programme, their stock handling skills, how they incorporate health and safety into their day-to-day activities on-farm and their vision for the future of the industry.
Mike Thomas, Builth Wells NFU Cymru / NFU Mutual Group Secretary, who will be judging the award on behalf of NFU Mutual said:
Welsh farmers are amongst the best stockpeople across the world and this competition does a great job in showcasing and celebrating their skills.
The closing date for entries is Monday October 28 and the winner will be announced at the Royal Welsh Winter Fair at Llanelwedd, Builth Wells on Monday November 25, 2024.
If you are interested in entering the award or putting a nomination forward for someone you know, please visit the NFU Cymru website to download an application form. Alternatively, you can email Clare Williams at [email protected] or telephone the NFU Cymru office on 01982 554200.
Sam Rowlands AS yn cefnogi’r ymgais i ddod o hyd i hyrwyddwr da byw cenedlaethol
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ffermwyr y Gogledd i wneud cais i fod yn Hyrwyddwr Da Byw Cymreig y Flwyddyn.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, sy'n gefnogwr brwd o'r diwydiant amaethyddol, yn cefnogi NFU Cymru ac NFU Mutual sy’n chwilio am 'Hyrwyddwr Da Byw' sy'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.
Dywedodd:
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod Cymru'n cynhyrchu'r cig eidion a'r cig oen o'r ansawdd gorau yn y byd ac rwy'n credu ei bod yn wych gweld y rhai sy'n gofalu am ein gwartheg a'n defaid yn derbyn cydnabyddiaeth am eu sgiliau.
Fel cefnogwr brwd i ffermwyr Cymru, rydw i bob amser yn croesawu unrhyw gyfle i dynnu sylw at yr holl waith caled maen nhw’n ei wneud i fwydo’r genedl.
Byddwn yn annog unrhyw gynhyrchwyr yn fy rhanbarth yn y Gogledd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth neu enwebu rhywun y maen nhw’n ei adnabod ar gyfer y wobr fawreddog hon.
Mae NFU Cymru ac NFU Mutual yn chwilio am 10fed enillydd Gwobr Hyrwyddwr Da Byw Cymru y Flwyddyn, cystadleuaeth sy’n tynnu sylw at stocmyn ymroddedig a brwd o bob cwr o Gymru. Bydd enillydd y wobr yn derbyn y brif wobr o £500 a Thlws Grisial Brenhinol Cymru.
Dywedodd Rob Lewis, Cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru, a fydd yn barnu ar ran NFU Cymru:
Yng Nghymru mae gennym ni’r cig eidion a'r cig oen o'r ansawdd gorau yn y byd, a gynhyrchir i'r safonau iechyd a lles anifeiliaid uchaf. Nod y wobr hon yw dathlu rhagoriaeth ymhlith cynhyrchwyr da byw Cymru.
Rydym am gydnabod y rôl allweddol y gall stocmon eithriadol ei wneud i fferm da byw, ac i'r diwydiant da byw yng Nghymru gyfan. Bydd darpar enillwyr yn cael eu barnu ar sail eu gofal a’u rheolaeth o’u praidd/fuches, sut maen nhw’n cynllunio iechyd anifeiliaid, eu rhaglen fridio, eu sgiliau trin stoc, sut maen nhw’n ymgorffori iechyd a diogelwch yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd ar y fferm a'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol y diwydiant.
Dywedodd Mike Thomas, Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru / NFU Mutual Llanelwedd, a fydd yn beirniadu'r wobr ar ran NFU Mutual:
Mae ffermwyr Cymru ymhlith y stocmyn gorau ledled y byd ac mae'r gystadleuaeth hon yn gyfle gwych i arddangos a dathlu eu sgiliau.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Llun 28 Hydref a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ddydd Llun 25 Tachwedd 2024.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymgeisio am y wobr neu enwebu rhywun rydych chi’n ei adnabod, ewch i wefan NFU Cymru i lawrlwytho ffurflen gais. Fel arall, gallwch anfon e-bost at Clare Williams yn [email protected] neu ffonio swyddfa NFU Cymru ar 01982 554200.